Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
Ar hyn o bryd mae 47 o ddynodiadau AHNE yn y Deyrnas Unedig:
- 35 yn Lloegr yn gyfan gwbl yn ogystal â Dyffryn Gwy sy’n pontio’r ffin rhwng Cymru a Lloegr (tua 15 y cant o’r wlad)
- 4 yng Nghymru yn gyfan gwbl yn ogystal â Dyffryn Gwy sy’n pontio’r ffin rhwng Cymru a Lloegr (tua 5 y cant o’r wlad);
- 7 yng Ngogledd Iwerddon ac argymhellir creu 2 ychwanegol.
Fel gyda Pharciau Cenedlaethol, mae deddfwriaeth AHNE yn gwahaniaethu rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig fel y gellir teilwrio’r trefniadau i’w hamgylchiadau penodol hwy.
AHNEau yng Nghymru a Lloegr
Dynodir AHNEau yng Nghymru a Lloegr ar gyfer un diben yn anad dim, sef gwarchod a gwella eu harddwch naturiol. Drwy’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (CGHT) mae gofyn i awdurdodau lleol gynhyrchu cynlluniau rheoli AHNE statudol (gan weithredu ar y cyd lle bo dynodiad yn rhychwantu mwy nag un ardal weinyddol) sy’n amlinellu gweledigaeth tymor hir ar gyfer rheoli’r ardal, y polisïau a’r amcanion y cytunwyd arnynt, a chynllun gweithredu tymor byr i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau a nodwyd.
Roedd Deddf CGHT 2000 hefyd yn fodd i greu Byrddau Cadwraeth AHNE annibynnol â’r dibenion o:
*warchod a gwella harddwch naturiol yr ardal o harddwch naturiol eithriadol, a
*chynyddu dealltwriaeth a mwynhad y cyhoedd o nodweddion arbennig yr ardal o harddwch naturiol eithriadol.
Mewn achosion lle’r ymddengys y gall fod gwrthdaro rhwng y ddau ddiben, bydd mwy o bwysau’n cael ei roi ar y diben cyntaf.
Fel arfer bydd cynhyrchu, a goruchwylio’r broses o ddarparu cynlluniau rheoli AHNE (Cliciwch yma i fynd i tudalen Cynlluniau Rheoli) yn cael ei lywio gan Bartneriaeth o awdurdodau lleol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru/Natural England a budd-ddeiliaid allweddol eraill. Fel arfer hefyd mae Uned AHNE a gynorthwyir yn ariannol gan yr awdurdodau lleol a’r asiantaeth lywodraeth berthnasol ymhlith eraill i gynhyrchu cynllun rheoli AHNE ar ran yr awdurdodau lleol, datblygu gweledigaeth ar gyfer yr ardal, rhoi cyngor ac arweiniad a chynnal gweithgareddau sy’n helpu i hybu dibenion y dynodiad.
AHNE yng Ngogledd Iwerddon
Mae cylch gwaith AHNEau yng Ngogledd Iwerddon yn debycach i eiddo Parciau Cenedlaethol mewn rhannau eraill o’r DU. Diben dynodiad AHNE yw gwneud yn siwr fod polisïau a gweithrediadau’n cael eu cyflawni sy’n:
- Gwarchod neu wella harddwch naturiol neu adnoddau’r ardal honno;
- Gwarchod bywyd gwyllt, gwrthrychau hanesyddol neu ffenomenau naturiol ynddi;
- Hybu mwynhad y cyhoedd ohoni;
- Darparu neu gynnal mynediad i’r cyhoedd iddi.

Click here for the English translation

