click here to go to the homepage
Jump to Content

Asesu'r sefyllfa

Dyma gyngor y Gorau o’r Ddau Fyd, dylech:

1) nodi safle ac enw’r tir a/neu’r dwr y dymunir cynnal gweithgaredd hamdden arno

2) dadansoddi’r sefyllfa bresennol ar y safle o safbwynt

3) gwybod sefyllfa gyfreithiol y gwahanol grwpiau neu garfanau

Efallai bod pobl am ymweld â safle am lawer o wahanol resymau, er enghraifft er mwyn cerdded, canwio, marchogaeth, gyrru neu hedfan barcutiau neu awyrennau, gwylio bywyd gwyllt, neu eistedd a mwynhau’r heddwch. Nid yw’r gweithgareddau hyn bob amser yn gydnaws â’i gilydd. Mae dangos ystyriaeth tuag at y tir a thuag at eraill yn hanfodol ar gyfer cyflawni’r Gorau o’r Ddau Fyd. Fodd bynnag:

Un ffordd o ddangos ystyriaeth yw rheoli gwahanol rannau safle mewn gwahanol ffyrdd. Er enghraifft, caiff un Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (sydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig y mae nifer helaeth o bobl yn ymweld ag ef ar gyfer pob math o wahanol weithgareddau) ei rhannu yn dri at ddibenion rheoli, a cheir ardaloedd tawel, ardaloedd lle caiff mynediad ei reoli ac ardaloedd prysur.

Felly, mae hi’n werth dadansoddi’r sefyllfa a phenderfynu:

Dylech geisio dod i wybod pwy sydd â hawl gyfreithiol i wneud beth, gan fod yna lawer o wahanol seiliau cyfreithiol ar gyfer mynediad cyhoeddus.

Cliciwch yma i fynd i dudalen Mathau o fynediad

Ceir sawl math o ddefnyddiwr hefyd

Cliciwch yma i fynd i dudalen Mathau o ddefnyddwyr


Efallai y bydd angen ichi wneud ymholiadau penodol ynghylch eich safle.

Cliciwch yma i fynd i dudalen O Ble y Gellir Cael Mwy o Wybodaeth

Cliciwch yma i fynd i dudalen Canllawiau Fesul Cam