Nodweddion un sy'n dda am greu consensws
Dyma gyngor y Gorau o’r Ddau Fyd:
Mae un sy’n dda am greu consensws
- yn wrandäwr da
- yn medru rhoi ei hun yn esgidiau’r person arall
- yn medru cadw’i ben dan bwysau
- yn meddu ar syniad clir o’r hyn sy’n bwysig iddo a’r hyn y mae am ei gyflawni.
Nid pawb sydd â’r nodweddion sydd eu hangen i allu creu consensws:
- Mae un sy’n dda am greu consensws yn dymuno cyflawni ei amcanion ei hun ond mae’n gwybod mai’r unig ffordd o gael ateb parhaol yw sicrhau bod pawb ar eu hennill.
- Er mwyn cyflawni canlyniadau cynaliadwy, rhaid bod y rheiny sy’n ceisio creu consensws yn barod i wrando, yn fodlon i eraill herio eu barn ac yn barod i ymateb mewn modd cytbwys a rhesymol.
- Nid yw creu consensws yn gofyn i unrhyw un newid ei argyhoeddiadau ei hun, ond mae’n bwysig cael syniad clir o’r hyn sy’n bwysig i chi a’r hyn yr ydych am ei gyflawni drwy’r broses creu consensws.
Gall cyfryngwr â sgiliau creu consensws fod o gymorth, er bod profiad yn dangos bod gwaith cyfryngu yn dueddol o ffafrio’r rheiny sydd â’r grym i roi neu wrthod caniatâd.
Cliciwch yma i fynd i dudalen Theori Gefndirol
Cliciwch yma i fynd i dudalen Gwybodaeth Arall
Click here for the English translation

