Arfordiroedd Treftadaeth
Mae Arfordiroedd Treftadaeth yn ddiffiniad tirwedd anstatudol a ddefnyddir yng Nghymru a Lloegr yn unig, ac fe’u diffinnir drwy gytundeb rhwng yr awdurdodau morol lleol perthnasol a Natural England neu CCGC.
Mae’r rhan fwyaf yn rhan o Barc Cenedlaethol neu AHNE.
Yng Nghymru, mae 13 darn o Arfordir Treftadaeth:
- Bae Aberffraw
- Ceredigion
- Pen Dinas
- Morgannwg
- Godrevy-Portreath
- Y Gwyr
- Y Gogarth
- Mynydd Twr
- Marloes a Dale
- Gogledd Ynys Môn
- De Penfro
- Bae Sain Ffraid
- Penmaendewi
Os am ragor o wybodaeth, ewch i: Cliciwch yma i agor http://www.ccw.gov.uk/landscape--wildlife/protecting-our-landscape/special-landscapes--sites/protected-landscapes/heritage-coasts.aspx mewn ffenester newydd
Yn ymarferol, nid yw dynodiad Arfordir Treftadaeth yn debygol o effeithio ar weithgaredd hamdden ynddo’i hun. Fodd bynnag, mae llawer o’r Arfordiroedd Treftadaeth wedi eu dynodi gan beirianweithiau eraill (statudol) ac oherwydd hynny bydd y rhain yn fwy perthnasol.
Mae gwerth treftadaeth i nifer o rannau o arfordiroedd yr Alban a Gogledd Iwerddon ond ni ddefnyddir y dynodiad hwn yn y gwledydd hyn.

Click here for the English translation

