Arfordiroedd Treftadaeth
Dim ond yng Nghymru a Lloegr y dynodir Arfordiroedd Treftadaeth. Mae ardaloedd sy’n derbyn statws Arfordir Treftadaeth yn cael eu diffinio yn hytrach na’u dynodi drwy ddeddfwriaeth sylfaenol, gan awdurdodau lleol mewn ymgynghoriad â Chyngor Cefn Gwlad Cymru (yng Nghymru) a Natural England (yn Lloegr). Byddant yn aml yn gorgyffwrdd â dynodiadau Parc Cenedlaethol neu AHNE.
Ailddiffiniwyd dibenion statws Arfordir Treftadaeth yn Lloegr gan y Comisiwn Cefn Gwlad yn 1992 fel a ganlyn:
- Diogelu, gwarchod a gwella harddwch naturiol arfordiroedd, gan gynnwys eu fflora a ffawna tirol, rhyng-lanwol a morol, a’u nodweddion treftadaeth o ddiddordeb pensaernïol, hanesyddol ac archeolegol.
- Hwyluso a gwella mwynhad, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad y cyhoedd ohonynt drwy wella ac ehangu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden, addysg, chwaraeon a thwristiaeth sy’n tynnu ar, ac sy’n gyson â gwarchod eu harddwch naturiol a diogelu eu nodweddion treftadaeth.
- Cynnal, a gwella (lle bo angen) iechyd amgylcheddol dyfroedd y glannau sy’n effeithio ar Arfordiroedd Treftadaeth a’u traethau drwy waith a chamau rheoli priodol.
- Ystyried anghenion amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota, ac anghenion economaidd a chymdeithasol cymunedau bach ar hyd yr arfordiroedd hyn, drwy hybu ffurfiau cynaliadwy o ddatblygu cymdeithasol ac economaidd, sydd, ynddynt eu hunain, yn gwarchod ac yn gwella harddwch naturiol a nodweddion treftadaeth.
Ar hyn o bryd diffiniwyd 14 Arfordir Treftadaeth yng Nghymru a 32 yn Lloegr.
Cliciwch yma i fynd i dudalen Beth yw tirweddau gwarchodedig?
Click here for the English translation

