Cadfeysydd Hanesyddol
Dangosir meysydd brwydr hanesyddol ar fapiau OS drwy ddefnyddio symbol cleddyfau wedi’u croesi (â dyddiad y frwydr). Mae cofrestr o feysydd brwydrau hanesyddol Lloegr ar gael gan English Heritage hefyd. Mae hon yn nodi pedwar deg tri o feysydd brwydr pwysig yn Lloegr. Drwy eu rhestru, mae EH yn gallu gwarchod a hyrwyddo gwell dealltwriaeth o’u harwyddocâd.
Mae pob cofnod yn y Gofrestr wedi’i seilio ar y dystiolaeth sydd ar gael ac y mae’n cynnwys map o faes y frwydr gan ddangos lleoliadau’r byddinoedd a nodweddion oedd yn rhan o’r maes brwydr gwreiddiol. Nod y mapiau hyn yw bod yn fan cychwyn i warchod a dehongli meysydd brwydr drwy nodi’r mannau mwyaf sensitif yn weledol.
Mae’n debyg ei bod yn well osgoi defnyddio meysydd brwydr hanesyddol fel canolbwynt i sialensiau hamdden y dyddiau hyn. Os ydych yn ansicr, cysylltwch â EH, Cadw, Historic Scotland neu’r EHS ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Mae mwy o wybodaeth am feysydd brwydr yn Lloegr a’r Alban ar gael o’r Battlefields Trust:
Cliciwch yma i agor http://www.battlefieldstrust.com/resource-centre/index.asp mewn ffenester newydd
I gael rhagor o wybodaeth am faes brwydr yn Lloegr, edrychwch ar gofrestr English Heritage ar :
Cliciwch yma i agor http://www.english-heritage.org.uk/server/show/nav.1436 mewn ffenester newydd
Cliciwch yma i fynd i dudalen Ynglyn â dynodiadau
Click here for the English translation

