Sefyllfa gyfreithiol
Bu defnyddio cerbydau modur (y cyfeirir atynt yn y gyfraith fel ‘cerbydau a yrrir yn fecanyddol’) yn destun llawer o ddadlau ffyrnig a ysgogwyd gan basio deddfwriaeth – Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 a Deddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006. Felly beth yw sefyllfa’r gyfraith ar hyn o bryd mewn perthynas â defnyddio ‘cerbydau a yrrir yn fecanyddol’ (MPV) yng nghefn gwlad? Mae’r Cwestiynau a’r Atebion isod yn gysylltiedig â deddfwriaeth yng Nghymru a Lloegr. Fel arfer bydd deddfwriaeth ffyrdd yr un fath yn yr Alban ond mae deddfau Hawliau Tramwy yn gwahaniaethu.
SYLWCH: Canllawiau’n unig yw cynnwys yr Atodiad hwn ac nid ydynt yn gyfystyr â datganiad na dadansoddiad terfynol o’r gyfraith. Dylai unrhyw un sy’n ceisio dibynnu ar y ddeddfwriaeth berthnasol holi am gyngor cyfreithiol annibynnol.
Lle mae gan y cyhoedd hawl gyfreithiol i yrru MPV?
O ran hawliau tramwy cyhoeddus, dim ond ar Gilffyrdd sy’n Agored i Bob Traffig y mae hawliau cerbydol cyhoeddus ar gael; (cyfeirir at y rhain fel arfer fel ‘cilffyrdd’ neu ‘BOATs’)
Beth yw cilffordd?
Mae’n fath arbennig o hawl tramwy cyhoeddus. Mae gan fodurwyr hawl i’w defnyddio, er mai cerddwyr, marchogwyr ceffylau a beicwyr sy’n defnyddio cilffyrdd sy’n agored i bob traffig fwyaf fel arfer. Rhaid i gilffordd gael ei defnyddio, neu raid iddi fod yn debygol o gael ei defnyddio, gan gerddwyr a marchogwyr ceffylau yn bennaf i fod yn gymwys i’w hychwanegu at y map diffiniol fel cilffordd sy’n agored i bob traffig.
Sut ydw i’n gwybod pa hawliau tramwy cyhoeddus sy’n Gilffyrdd sy’n Agored i Bob Traffig?
Ar y safle: dan a27 Deddf Cefn Gwlad 1968, mae’n ofynnol i’r awdurdod priffyrdd lleol (yr awdurdod priffyrdd lleol fel arfer) godi arwydd lle bo llwybr cyhoeddus yn ymuno â phriffordd wedi’i metelu yn nodi statws y ffordd a’r cyfeiriad y mae’n ei ddilyn.
Ar fapiau OS: dangosir cilffyrdd fel cyfres o +++++/+++++ ond sylwch nad yw mapiau OS yn gyfreithiol-derfynol.
Diffiniad cyfreithiol: Yr unig gofnod cyfreithiol-derfynol yw’r Map a’r Datganiad Diffiniol, a gedwir ac a gynhelir gan yr awdurdod arolygu (yr awdurdod arolygu) yn yr ardal. OND – efallai na fydd y Map Diffiniol yn dangos y safle’n fanwl gywir (gweler ‘A all cilffyrdd newydd ddod i fodolaeth?’).
A all cilffyrdd newydd ddod i fodolaeth?
Mae angen gwahaniaethu rhwng cilffordd sy’n dod i fodolaeth (h.y. creu cilffordd newydd) a chilffordd sydd eisoes yn bodoli ac a gofnodwyd ar y Map Diffiniol.
Gall hawl tramwy cyhoeddus ddod i fodolaeth drwy gael ei gyflwyno’n benodol felly gan y tirfeddiannwr ac i’r llwybr ddatblygu’n un sy’n bodoli, rhaid dangos ei fod yn cael ei ‘dderbyn’ gan y cyhoedd.
Nid yw hawliau MPV sydd eisoes yn bodoli wedi cael eu dileu ar lwybr:
- os yw cais am Orchymyn Diwygio Map Diffiniol er mwyn cofnodi’r trywydd yn un sydd â statws cilffordd, a gyflwynwyd cyn 20 Ionawr 2005 (yng Nghymru) a 19 Mai 2005 (yn Lloegr), yn llwyddiannus;
- os canfyddir bod gorchymyn ailddosbarthu RUPP (a gychwynnwyd cyn i a47 Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ddod i rym) yn cynnwys hawliau ar gyfer MPV (o’i gymharu â cherbyd nad yw’n MPV; yn yr achos hwn bydd yn cael ei gofnodi fel cilffordd gyfyngedig);
- os gellir dangos bod un o bum eithriad a ddarperir ar eu cyfer yn a67 Deddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 yn berthnasol.
Beth am lonydd gwyrdd?
Nid oes gan lonydd gwyrdd unrhyw statws cyfreithiol; term disgrifiadol yn unig ydyw. Os yw ffordd yn cael ei galw’n lôn werdd, yna ni allwch ddod i unrhyw gasgliad am fodolaeth hawliau cyhoeddus i yrru MPV ar ei hyd, neu i’r gwrthwyneb.
Beth yw Ffyrdd Sirol Annosbarthedig?
Ystyrir ffyrdd a enwir yn ‘A’, ‘B’ neu ‘C’ gan yr awdurdod priffyrdd yn ffyrdd wedi’u dosbarthu - ystyrir eraill yn rhai annosbarthedig, ac weithiau rhoddir cyfeirnod yn dechrau â’r llythyren ‘U’ iddynt. Mae’r term ‘ffordd sirol annosbarthedig’ (UCR) yn golygu (ar lafar gwlad) ffordd annosbarthedig y mae’n ofynnol i’r cyngor sir ei chynnal a’i chadw. Gall fod ag wyneb neu heb wyneb a gall gario hawliau cerbydol cyhoeddus neu beidio. Nid oes ystyr cyfreithiol manwl gywir i’r term erbyn hyn.
Beth yw RUPPs?
Ystyr RUPP yw Ffordd a Defnyddir fel Llwybr Cyhoeddus (“Road Used as Public Path”). Defnyddiwyd y term am hawliau tramwy cyhoeddus â statws aneglur yn ystod cyfnod o ailddosbarthu. Tra’n disgwyl i gael eu hilddosbarthu, caniatawyd i’r cyhoedd yrru MPVs ar eu hyd. Fodd bynnag, yn dilyn cyflwyno a47 Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 troswyd pob RUPP nad oeddent, yr adeg honno, yn y broses o gael eu hailddosbarthu, yn gilffyrdd cyfyngedig (h.y. mae gan y cyhoedd hawl i’w defnyddio ar droed, ar gefn ceffyl ac i yrru cerbydau di-beiriant ar eu hyd). Bydd unrhyw RUPP sydd yn y broses o gael ei hailddosbarthu yn derbyn y statws a bennir gan y broses honno.
A yw “rheolau’r ffordd fawr” yn berthnasol i gerbydau ar gilffyrdd?
Ydynt. Er mwyn gyrru cerbyd ar gilffordd, mae angen cydymffurfio â holl ddeddfwriaeth berthnasol traffig ar briffyrdd a ffyrdd. Er enghraifft:
- rhaid i gerbydau fod yn addas i fod ar y ffordd, wedi’u trethu a rhaid iddynt fod â thystysgrif MOT ddilys;
- rhaid i yrwyr beiciau modur wisgo helmed;
- rhaid i yrwyr fod â thrwydded ac wedi eu hyswirio ac ni ddylent yrru dan ddylanwad alcohol.
A oes amgylchiadau pan ellir gyrru MPV ac eithrio ar gilffordd neu ffordd?
Oes, dan nifer o amgylchiadau. Y ddeddf berthnasol yw a34 Deddf Traffig y Ffyrdd 1988, sy’n datgan fel a ganlyn: “Yn amodol ar ddarpariaethau’r adran hon, os yw person yn gyrru cerbyd a yrrir yn fecanyddol heb awdurdod cyfreithlon —
- ar neu ar wyneb unrhyw dir comin, rhostir neu dir o unrhyw fath arall, nad yw’n dir sy’n ffurfio rhan o ffordd, neu
- ar unrhyw ffordd sy’n llwybr troed, llwybr ceffylau neu gilffordd gyfyngedig,mae’n euog o drosedd.”
Ond, mae a34 yn mynd ymlaen i ddatgan fel a ganlyn:
“Nid yw’n drosedd dan yr adran hon i yrru cerbyd a yrrir yn fecanyddol ar unrhyw dir o fewn pymtheg llath i ffordd, sy’n ffordd y gellir gyrru cerbyd modur yn gyfreithlon arni, i ddiben parcio’r cerbyd ar y tir hwnnw yn unig.”
a
“Ni fydd unigolyn yn cael ei ddyfarnu’n euog o drosedd dan yr adran hon mewn perthynas â cherbyd os yw’r llys yn fodlon ei fod yn profi ei fod yn cael ei yrru’n groes i’r adran hon i ddiben achub bywyd neu ddiffodd tân neu ymateb i unrhyw argyfwng tebyg.”
Fel yr awgrymir yn y Ddeddf, gellir gyrru MPV ar dir neu drywydd gydag awdurdod cyfreithlon. Er enghraifft, mae rhywun sy’n dosbarthu’r post neu’n gyrru ar dir â chydsyniad y tirfeddiannwr yn gwneud hynny gydag awdurdod cyfreithlon ac nid yw’n cyflawni tramgwydd.
Dylid nodi hefyd nad yw ‘cerbyd claf’ yn cael ei ystyried, i ddibenion Deddf Traffig y Ffyrdd 1988 a34, fel MPV (yn rhinwedd a20 Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970). Mae darpariaeth debyg yn y Ddeddf CGHT 2000 yn rhyddhau cerbydau cleifion o’r cyfyngiad cyffredinol a nodwyd yn Atodlen 2, cymal 1(a).
Ond beth yw MPV?
Yn fras, ‘cerbyd a yrrir yn fecanyddol’ yw un sydd â modd mecanyddol o yriad ac y mae’r term yn cynnwys cerbydau modur na chawsant eu bwriadu na’u haddasu i’w defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus, yn ogystal â cherbydau modur a fwriadwyd i’r diben hwnnw.
Mae Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (NERC) 2006 yn nodi nad yw MPV yn cynnwys cerbyd sy’n dod o dan adran 189(1)(c) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988 (beiciau pedal a gynorthwyir yn drydanol). Fodd bynnag, mae rhywfaint o ansicrwydd ynghylch statws ‘mini-moto’ a pheiriannau tebyg, gan na ellir cofrestru’r rhain fel cerbydau.
A alla’i stopio gyrrwr MPV?
Dim ond plismon mewn iwnifform all fynnu bod gyrrwr yn stopio. Wrth gwrs, fe allwch bob amser OFYN i rywun i stopio.
A all yr heddlu gipio cerbyd?
Gall. Mae dwy ddarpariaeth sy’n berthnasol:
Dan a59 Deddf Diwygio’r Heddlu 2002, “
(1) Lle bo gan gwnstabl mewn iwnifform sail resymol dros gredu bod cerbyd modur yn cael ei ddefnyddio ar unrhyw achlysur mewn modd sy’n -
- (a) mynd yn groes i adran 3 neu 34 Deddf Traffig y Ffyrdd 1988 (c. 52) (gyrru’n ddiofal ac yn anystyriol a gwaharddiad o yrru oddi ar y ffordd), a’i
- (b) fod yn achosi, neu’n debygol o achosi, braw, gofid neu flinder i aelodau o’r cyhoedd,
bydd ganddo’r pwerau a amlinellir yn isadran (3).
(3) Mae’r pwerau hynny fel a ganlyn-
- (a) pwer, os yw’r cerbyd modur yn symud, i orchymyn i’r sawl sy’n ei yrru stopio’r cerbyd;
- (b) pwer i gipio a symud y cerbyd modur;
- (c) pwer, i ddibenion ymarfer pwer sy’n dod o dan baragraffau (a) neu (b), i fynd i mewn i unrhyw adeilad lle mae ganddo sail resymol dros gredu y mae’r cerbyd modur;
- (d) pwer i ddefnyddio grym rhesymol, os oes angen, wrth ymarfer unrhyw hawl a gyflwynir gan unrhyw un o baragraffau (a) i (c).
Fodd bynnag, yn ôl y ddeddf mae’n ofynnol bod “(a) ef [yr heddwas] wedi rhybuddio’r person yr ymddengys iddo mai ef yw’r person y mae ei ddefnydd yn dod o dan isadran (1) y bydd yn ei gipio, os yw’n parhau i’w ddefnyddio neu os yw hyn yn digwydd eto; a (b) os yw’n ymddangos iddo ef fod y defnydd wedi parhau neu wedi’i ailadrodd wedi’r rhybudd.”
O dan a165 Deddf Traffig y Ffyrdd 1988, gall heddwas gipio cerbyd nad yw wedi ei yswirio, dan rai amgylchiadau.
A oes modd atal MPV ar gilffordd?
Mae Deddf Rheoli Traffig y Ffyrdd 1984 (a’r rheoliadau cysylltiedig) yn rhoi pwer i awdurdodau traffig lunio Gorchymyn RheoleiddioTraffig (TRO) sy’n cyfyngu ar rai categorïau o ddefnyddwyr, fel y rhai hynny sy’n gyrru MPVs. Estynnodd NERC 2006 (a72) y pwerau hyn i gynnwys Awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Estynnwyd y dibenion y gellir cyflwyno TROs dan y Ddeddf CGHT 2000 (a66).
Gellir gosod TRO ar sail y canlynol:
- i atal perygl;
- i atal niwed;
- i hwyluso taith dosbarthiadau eraill o ddefnyddwyr;
- i atal defnydd amhriodol;
- i gadw cymeriad y ffordd;
- i gadw neu wella amwynder.Mewn gwahanol fathau o fannau dynodedig, gellir cyflwyno TROs hefyd ar y sail eu bod yn angenrheidiol i warchod harddwch naturiol.
A oes modd gyrru dros gilffyrdd dan unrhyw amgylchiadau?
Na. Gellir atal neu gyfyngu ar y defnydd:
- drwy TRO (gweler uchod);
- lle bo llwybr wedi’i gau dros dro gan awdurdod priffyrdd (gan ddefnyddio pwerau cyfreithiol) am resymau diogelwch neu i’w gynnal a’i gadw, er enghraifft;
- os yw’r defnydd yn achosi difrod troseddol i’r ffordd.

Click here for the English translation

