Ardaloedd Golygfaol Cenedlaethol
Dim ond yr Alban y ceir Ardaloedd Golygfaol Cenedlaethol (National Scenic Areas - NSAs). Mae gwefan SNH yn eu disgrifio fel a ganlyn: “those areas of land considered of national significance on the basis of their outstanding scenic interest which must be conserved as part of the country’s natural heritage. They have been selected for their characteristic features of scenery comprising a mixture of richly diverse landscapes including prominent landforms, coastline, sea and freshwater lochs, rivers, woodlands and moorlands.”
Ar y dechrau, roedd NSAs yn ddynodiad a ddefnyddiwyd yn y system Cynllunio Gwlad a Thref yn unig, er y gellir creu NSAs bellach dan ddeddfwriaeth sylfaenol – the Natural Heritage (Scotland) Act 1991.
Mae 40 NSA dros 13,783 cilomedr sgwâr neu 12.7 y cant o’r Alban.
Am ragor o wybodaeth: Cliciwch yma i agor http://www.snh.org.uk/scripts-snh/ab-pa03.asp mewn ffenester newydd
Ardaloedd o Werth Tirweddol Mawr
Dynodiad arall ar gyfer tirwedd yr Alban yw AGLV. Diffinnir y rhain gan awdurdodau lleol yn yr Alban, cynlluniau datblygu, â’r nod o ddiogelu ardaloedd o bwysigrwydd tirweddol rhanbarthol neu leol rhag datblygiadau anghydnaws. Mae awdurdodau lleol yn yr Alban yn defnyddio nifer o ddynodiadau tirwedd rhanbarthol neu leol eraill hefyd, gan gynnwys Ardal Olygfaol Ranbarthol.
Cliciwch yma i fynd i dudalen Beth yw tirweddau gwarchodedig?
Click here for the English translation

