Drylliadau a Ddiogelir
Mae’r ddeddfwriaeth a ddefnyddir i warchod yn effeithio ar ba weithgareddau ellir eu gwneud (deifio yn bennaf) ar ddrylliad ac o’i gwmpas:
- Deddf Gwarchod Drylliadau 1973: lle bo drylliad yn ddrylliad gwarchodedig, mae’n drosedd i ymyrryd, difrodi neu symud unrhyw bethau neu ran o’r llong neu gynnal unrhyw weithred ddeifio neu achub oddi mewn i ardal waharddedig ddiffiniedig. Dim ond dan drwydded a ganiatawyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol y gellir cynnal unrhyw weithgareddau yn yr ardal waharddedig hon, ac y mae’n derbyn cyngor gan y Pwyllgor Ymgynghorol ar Safleoedd Drylliadau Hanesyddol (Advisory Committee on Historic Wreck Sites - ACHWS). Gellir cael trwydded ar bedair lefel: trwydded ymwelydd, trwydded arolwg, trwydded adfer arwyneb a thrwydded cloddiad.
- Deddf Gwarchod Gweddillion Milwyr 1986: mae dau ddynodiad y gellir eu defnyddio dan y Ddeddf hon:
- Mannau Gwarchodedig: Ni waherddir deifio ar awyren neu long a ddynodwyd fel Man Gwarchodedig. Fodd bynnag, mae’n drosedd i ddeifio heb drwydded neu gynnal gweithrediadau achub i ymyrryd â, difrodi, symud neu ddatgladdu unrhyw weddillion neu fynd i mewn drwy unrhyw orddrws neu agoriad arall. Mewn gwirionedd, caniateir deifio ar sail ‘edrychwch ond peidiwch â chyffwrdd’ yn unig.
- Safleoedd Rheoledig: Mae Dynodiad fel Safle Rheoledig yn gwahardd deifio i bob pwrpas ar y safleoedd hyn heb drwydded benodol.
- Deddf Henebion ac Ardaloedd Archaeolegol 1979: Caniateir deifio ar henebion arforol rheoledig ar sail ‘edrychwch ond peidiwch â chyffwrdd’. Gweler hefyd: Henebion Cofrestredig
Ar hyn o bryd, mae 93 o ddrylliadau o gwmpas arfordir y DU wedi eu dynodi fel drylliadau gwarchodedig dan y ddeddfwriaeth uchod.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth o wefan yr Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau:
Cliciwch yma i fynd i dudalen Ynglyn â dynodiadau
Click here for the English translation

