Cyrraedd consensws a'i gynnal
Dyma gyngor y Gorau o’r Ddau Fyd, dylech:
- Ddal gafael ar gytundeb pan fydd o fewn cyrraedd
- Caniatáu i eraill gael eu cynnwys mewn gwaith ymgynghori os oes angen
- Bod yn glir ynghylch pwy sy’n gwneud beth, a phryd y dylid gweithredu’r cytundeb
- Gwneud darpariaeth ar gyfer dyfodol y cytundeb os yw hynny’n berthnasol.
Os yw’r camau blaenorol wedi cael eu dilyn, daw yna bwynt pan fydd un ochr yn symud tuag at gyfaddawd, fel arfer drwy awgrymu “Beth petai....?”, “Sut fyddech chi’n teimlo ynghylch...?”.
Bydd cael yr ochr arall i ailddatgan y cynnig yn cadarnhau’r hyn sydd wedi’i gyflwyno, ac yn gosod y llwyfan ar gyfer gwrth-gynigion posibl. Bydd y broses hon yn cael ei hailadrodd hyd nes bod y ddwy ochr wedi cyrraedd sefyllfa lle maent yn teimlo bod eu hamcanion wedi’u diwallu cymaint ag sy’n bosibl.
Gall hyn gymryd amser – gall y naill ochr neu’r llall gymryd amser i feddwl drwy oblygiadau’r awgrymiadau a adolygwyd.
Felly, pan fydd cytundeb mewn golwg, ewch amdano.
- Symudwch i gytundeb pan fydd hi’n glir bod y telerau yn dderbyniol i bob ochr, er y gall fod gofyn cael cymeradwyaeth gan eraill.
- Os yw cytundeb i fod yn ysgrifenedig, mae’n well gwneud hyn pan fydd pawb gyda’i gilydd fel eu bod yn medru cytuno ar yr union eiriad. Cliciwch yma i fynd i dudalen Mathau o Gytundebau
- Byddwch yn glir ynghylch pwy fydd yn gwneud beth ac erbyn pryd.
Mewn rhai amgylchiadau, gall fod yn bwysig gosod targedau, amserlenni a/neu drothwyau sy’n ymwneud â’r prif amcanion, a chytuno (er enghraifft) ar y canlynol:
- pryd y disgwylir i bethau ddigwydd
- sut y bydd trefniadau’n cael eu gorfodi
- sut y bydd y sefyllfa’n cael ei monitro (a gan bwy)
- beth fydd yn digwydd os na chyrhaeddir y targedau neu os yw’r trothwyau’n cael eu croesi, a
- gwneud darpariaeth ar gyfer adolygiadau yn y dyfodol

Click here for the English translation

