Cofrestr Parciau a Gerddi
Cafodd tua 1,450 o barciau a gerddi yn Lloegr a 372 yng Nghymru eu cynnwys ar y gofrestr hon oherwydd eu diddordeb diwylliannol neu hanesyddol arbennig, Mae rhai o bwysigrwydd cenedlaethol neu ryngwladol. Nid oes unrhyw hawl mynediad cyhoeddus fel mater o drefn i barc neu ardd gofrestredig , er bod rhai ar agor i’r cyhoedd. Mae mwy o barciau cyhoeddus wedi cael eu cynnwys ar y gofrestr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er enghraifft.
Mae eu cynnwys ar y gofrestr yn rhoi mwy o amddiffyniad rhag datblygu. Mae’n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol gymryd y Parc neu’r Ardd i ystyriaeth wrth gynhyrchu cynlluniau datblygu ac mae’n rhaid iddynt, wrth benderfynu a ydynt am roi caniatâd ai peidio, ystyried diddordeb hanesyddol y safle. Mae gofyn i’r awdurdodau ymgynghori â English Heritage/Cadw pan fo’r cais yn effeithio ar safle rhestredig gradd I neu II*, ac â’r Gymdeithas Hanes Gerddi ynghylch pob cais sy’n effeithio ar safleoedd cofrestredig, waeth beth yw gradd y safle.
Nid yw cynnwys Parc neu Ardd ar y gofrestr yn debygol o fod yn berthnasol oni bai bod angen cael caniatâd cynllunio ar gyfer y gweithgaredd hamdden a argymhellir ar gyfer y safle.
Gallwch gael mwy o wybodaeth ar wefan English Heritage: Cliciwch yma i agor http://www.english-heritage.org.uk/server/show/nav.1410 mewn ffenester newydd
Mae Cadw hefyd yn darparu rhagor o wybodaeth ar eu gwefan: Cliciwch yma i agor http://www.cadw.wales.gov.uk/default.asp?id=109 mewn ffenester newydd
Yn yr Alban, mae Historic Scotland yn cynnal Rhestr Gynnwys o Erddi a Thirweddau Cynlluniedig. Gweler am fwy o fanylion: http://www.historic-scotland.gov.uk/index/gardens/gardens_inventory_intro.htm mewn ffenester newydd
Y gofrestr gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon yw’r Register of Parks, Gardens and Demesnes of Special Historic Interest. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar: http://www.ehsni.gov.uk/registerni-revision.pdf

Click here for the English translation

