Gwobrau i Gyfranogwyr
Bydd gan bawb eu rhesymau eu hunain dros fod eisiau cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden awyr agored. Dyma’r rhai sy’n cael eu crybwyll amlaf:
- ymateb i’r her: Gall yr awyr agored gynnig her gorfforol a meddyliol i’r rheiny sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau megis dringo, ogofa, canwio, beicio mynydd, marchogaeth ac ati. Mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu bywiogi a’u bod ar eu hennill o wneud y pethau hyn.
- cael ‘bod yno’: Mae hyn yn ddigon i rai. Cyfle i ddianc o brysurdeb bywyd trefol ac o ddiflastod bywyd bob dydd.
- bod yn agos at natur: Gall hyn wneud cyfraniad cadarnhaol i’n hiechyd, gall ein helpu i ymdopi pan fyddwn yn teimlo dan bwysau neu’n wynebu problemau, gall gael effaith ‘imiwnyddol’ drwy ein hamddiffyn rhag teimlo dan bwysau yn y dyfodol, a gall ein helpu i ganolbwyntio a meddwl yn fwy clir.
- mae’n dda i iechyd corfforol pobl: Mae pobl sy’n defnyddio cefn gwlad ar gyfer gweithgareddau hamdden awyr agored, a elwir bellach yn “ymarfer gwyrdd”, yn fwy heini ac yn fwy bodlon o safbwynt emosiynol.
- mae’n dda ar gyfer ffitrwydd a lles meddyliol: Gall gweithgareddau awyr agored ein helpu i deimlo’n fodlon ein byd. I ddyfynnu’r cylchgrawn Community Care - “Os ydych wir am deimlo’n well, ac os ydych yn medru gwneud hyn, ’does dim byd gwell na chael awyr iach ac ymarfer corff mewn amgylchedd gwyrdd.”
- mae’n ysbrydoliaeth i arlunwyr: Mae llawer o arlunwyr, beirdd ac awduron yn cael eu hysbrydoli gan y dirwedd naturiol.
I gael fwu o gwybodaeth ar y pwnc yma, Cliciwch yma i agor Cyfeiriadau a Darllen Pellach
Cliciwch yma i fynd i dudalen Gweithgareddau Awyr Agored
Click here for the English translation

