Tactegau
Lle bo beicio gwlad yn digwydd yn gyfreithlon – defnyddio cyfyngiad gwirfoddol
Yr enghraifft orau o gyfyngiad gwirfoddol yw honno a amlinellir yng Nghod Ymddygiad y Trail Riders’ Fellowship (TRF):
Defnyddiwch hawliau tramwy cerbydol yn unig.
Dim ond ar ffyrdd cyhoeddus y mae beicio gwlad yn gyfreithlon. Os ydych yn ansicr, cysylltwch â’r Awdurdod Priffyrdd neu’r TRF. Rhaid i feiciau modur a’u marchogwyr fod yn gyfreithlon ar y ffordd. Mae Lonydd Gwyrdd dan reolaeth yr un deddfau â ffyrdd ag wyneb arnynt.
Cadwch at y ffordd ddiffiniedig ar draws tir fferm.
Gall olwynion ddifrodi cnydau a glaswellt. Mae crwydro o’r ffordd ar dir fferm neu rostir yn dresmasu.
Ildiwch i gerddwyr, ceffylau a beicwyr.
O ran cwrteisi, stopiwch a diffoddwch yr injan ar lonydd cul.
Cydnabyddwch bresenoldeb defnyddwyr eraill ar y Lôn Werdd
Drwy godi llaw’n gyfeillgar neu ddefnyddio ystum priodol arall.
Caewch giatiau i ddiogelu da byw.
Ac eithrio’r rhai hynny a glymir ar agor i ddibenion ffermio. Mae giât agored yn annog anifeiliaid i grwydro, gan roi eu hunain, cnydau neu draffig, mewn perygl.
Teithiwch ar gyflymder diogel.
Gyrrwch ar gyflymder rhesymol, gan gymryd sylw o’r amgylchiadau a’r gwelededd. Ni ddylai hyn fod yn fwy na’r mwyafswm gwirfoddol o 25 milltir yr awr.
Gyrrwch yn dawel.
Rhaid distewi peiriannau’n effeithiol. Defnyddiwch y sbardun yn ddoeth, gan fod swn yn tramgwyddo. Mae Lonydd Gwyrdd dan reolaeth yr un deddfau â ffyrdd ag wyneb arnynt.
Parchwch reolau cefn gwlad.
Parchwch gefn gwlad a’r rhai hynny sy’n byw, yn gweithio ac yn chwarae yno. Gall Lonydd Gwyrdd fod yn gynefinoedd gwerthfawr, felly cymrwch ofal arbennig yn y gwanwyn ac ar ddechrau’r haf.
Nodwch pwy ydych chi.
Cariwch eich cerdyn aelodaeth gyda chi pan fyddwch yn beicio gwlad, fel y gallwch ddangos eich bod yn aelod cyfredol o’r TRF - a dangoswch sticer aelodaeth gyfredol.
Gweler: Cliciwch fama i agor http://www.trf.org.uk/code.php mewn ffenest newydd
Tacteg arall i’w hystyried yw pennu uchafswm maint grwpiau ar gyfer llwybrau penodol (5 beiciwr modur ar gyfer llwybrau sensitif, 8 ar gyfer rhai llai sensitif, er enghraifft).
Lle bo beicio gwlad yn digwydd yn gyfreithlon – defnyddio Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (TROs)
TROs
- dim ond os na weithiodd dulliau gwirfoddol y dylid ystyried TROs;
- mae pwerau ar gael dan wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth i’r awdurdod priffyrdd lleol (a’r Awdurdod Parc Cenedlaethol mewn Parciau Cenedlaethol) gyflwyno TROs os credant fod hyn yn angenrheidiol ac os yw’n bodloni’r profion cyfreithiol perthnasol;
- gellir defnyddio TROs i leihau’r defnydd a wneir o briffordd gan unrhyw ddosbarth o ddefnyddiwr, nid gyrwyr cerbydau modur yn unig;
- mae angen i TROs fod wedi eu harwyddo’n eglur a’u gorfodi.
Mae’r drefn ar gyfer llunio TROs wedi’i amlinellu yn Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996. Dyma amlinelliad o’r drefn os bydd TRO yn effeithio ar hawl tramwy cyhoeddus:
- mae’r awdurdod yn ymgynghori â buddgyfranogwyr;
- rhaid datgan y bwriad i lunio TRO mewn papur newydd lleol;
- dylai manylion y Gorchymyn fod ar gael i’r cyhoedd ei archwilio am 21 niwrnod o leiaf;
- dylai’r awdurdod ystyried pob gwrthwynebiad (gall hefyd gynnal ymchwiliad cyhoeddus, os yw’n dymuno gwneud hynny);
- os llunnir TRO, dylai hysbysu gwrthwynebwyr, cyhoeddi rhagor o hysbysiadau a threfnu i’r manylion fod ar gael i’w harchwilio am 42 diwrnod;
- os yw’r awdurdod yn penderfynu peidio â llunio TRO, rhaid i ddogfennau fod ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd.
Lle bo beicio gwlad yn digwydd yn anghyfreithlon:
Yn fras, gellir crynhoi’r mesurau sydd ar gael a pha mor effeithiol ydynt fel a ganlyn:
- Mae gweithio’n strategol, sef y gallu i gynnwys yr holl randdeiliaid, yn angenrheidiol os am fynd i’r afael â’r problemau fel cyfanwaith a defnyddio’r amrediad llawn o ddulliau sydd ar gael i ymateb i’r defnydd anghyfreithlon o MPVs.
- Camau ffisegol a saernïwyd i atal neu rwystro pobl rhag defnyddio cerbydau modur yn anghyfreithlon gan gynnwys rhwystrau, giatiau, ffensys a chreigiau i atal mynediad ac arwyddion i rwystro pobl rhag defnyddio MPV yn anghyfreithlon. Gall y rhain fod yn effeithiol mewn rhai sefyllfaoedd ond mae nifer o anfanteision iddynt gan gynnwys atal defnyddwyr awdurdodedig, effeithiau anffafriol ar amwynder gweledol, pa mor hawdd y gellir eu hosgoi (a’u fandaleiddio, mewn rhai achosion) a’u cost.
- Gall camau gorfodi i rwystro pobl rhag defnyddio MPV yn anghyfreithlon fod yn effeithiol ond mae’r gost o orfodi gyda chymorth yr heddlu yn uchel. Mae partneriaeth rhwng rhanddeiliaid a darparu cudd-wybodaeth o safon uchel i’r heddlu yn debygol o olygu fod y gorfodi’n fwy effeithiol.
- Mae wardeinio gweithredol â phresenoldeb rheolaidd ar y safle, parcmon er enghraifft, yn ychwanegiad defnyddiol i’r broses o orfodi.
- Mae camau addysgol i annog defnyddwyr MPV i ymddwyn yn gyfrifol yn ddefnyddiol, yn arbennig pan fo hyn yn digwydd mewn cysylltiad ag ysgolion. Mae’r ddau beth hyn yn bwysig o ran gweithgaredd cymdogol oddi ar y ffordd.
- Mae darparu cyfleusterau/cyfleoedd ar gyfer defnyddio cerbydau modur yn gyfreithlon yn llawn her ond nid yw heb ei beryglon o ran canfod, ariannu a gweithredu safle.

Click here for the English translation

