click here to go to the homepage
Jump to Content

Safleoedd Treftadaeth Byd

Mae’r Corff Addysgol, Gwyddonol, a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (United Nations Education, Scientific and Cultural Organisation - UNESCO) yn cadw cofrestr o safleoedd sydd o bwysigrwydd byd-eang am resymau diwylliannol neu dreftadaeth naturiol. Mae rhestru’n ddynodiad pwysig a chlodfawr sy’n gydnabyddiaeth o arwyddocâd safle yn fyd-eang. Mae gofyn i safleoedd dynodedig gynnal Cynlluniau Cadwraeth a gallant gael mynediad i Gronfa Treftadaeth y Byd. Ystyrir rhestru hefyd yn fodd o ddenu ymwelwyr a hybu gweithgaredd economaidd yn lleol drwy hynny.


Yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yw adran y llywodraeth sy’n gyfrifol am geisio cynnwys safleoedd DU ar y rhestr. Ar hyn o bryd mae 29 o safleoedd yn y DU wedi eu rhestru’n Safleoedd Treftadaeth y Byd. Yn aml bydd safleoedd yn adeiladau neu mewn ardaloedd trefol ond mae llawer iawn mwy yn fwy gwledig o ran natur a gallant gynnwys tirweddau cyfan (e.e. rhannau o arfordiroedd Dyfnaint a Dorset).

Gallwch gael manylion safleoedd unigol drwy fynd i wefan Treftadaeth Byd y DU ar:

http://www.ukworldheritage.org.uk/map_txtversion.htm

Neu

http://icomos-uk.org/whs/

Cliciwch yma i fynd i dudalen Ynglyn â dynodiadau