Manteision Gweithgareddau Awyr Agored i’r Amgylchedd Naturiol
Gall yr amgylchedd naturiol elwa o weithgareddau hamdden awyr agored oherwydd:
- bod pobl yn dysgu gwerthfawrogi natur: Mae mynd allan a gweld natur yn uniongyrchol yn un ffordd o danio diddordeb mewn natur. Bydd pobl sy’n gwerthfawrogi byd natur yn fwy tebygol o fod eisiau osgoi gwneud niwed iddo.
- gall gwerth safle ddibynnu ar fynediad cyhoeddus: Yn yr un modd ag y gall ansawdd rhai cynefinoedd a thirweddau ddibynnu ar fathau arbennig o ddulliau rheoli tir neu ddulliau rheoli amaethyddol, gall rhai safleoedd ddibynnu ar fathau o weithgareddau hamdden.
- gall ymwelwyr ddod yn ffrindiau …: Os yw ymwelwyr yn hoff iawn o leoliad oherwydd ei brydferthwch a’i nodweddion naturiol, byddant yn helpu i’w gadw, ei amddiffyn a’i wella. O gael hyfforddiant a chymorth priodol, gallant gryfhau safbwyntiau cadwraethwyr, helpu gyda gwaith corfforol a gweithredu fel llygaid a chlustiau.
- mae pobl sy’n hamddena yn gwario llawer o arian: sy’n bwysig i’r economi leol. Amcangyfrifodd ymchwilwyr, er enghraifft, bod tripiau cerdded i gefn gwlad Lloegr yn unig yn cynhyrchu o gwmpas £6.14 biliwn y flwyddyn, gan ddarparu rhyw 180,000 i 250,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn (Cymdeithas y Cerddwyr, 2003). Yn 2004, cafwyd 265 miliwn o ymweliadau yn ymwneud â dyfrffyrdd, ac roedd yr ymwelwyr hynny wedi gwario cyfanswm o £1.15 biliwn (darparwyd y data gan y Cyngor Canolog ar gyfer Gweithgareddau Hamdden Corfforol - CCPR).

Click here for the English translation

