Gwrthdaro ar Dir
Mae’n debyg mai gweithgareddau ar dir nad ydynt yn defnyddio cerbydau modur yw’r rhai y mae pobl yn eu dilyn yn fwy nag unrhyw rai eraill. Ymhlith y gweithgareddau mwyaf poblogaidd mae:
- cerdded/crwydro
- cerdded cwn
- beicio ffordd a beicio mynydd
- dringo creigiau
- marchogol (marchogaeth a gyrru cerbyd)
- cyfeiriannu
P’run ai yw pobl yn arfer hawl (fel cerdded ar hyd llwybr cyhoeddus) neu’n gweithredu â chaniatâd y tirfeddiannwr (fel cynnal digwyddiad cyfeiriannu ar dir preifat), gellir osgoi problemau drwy weithio oddi mewn i’r rheolau a thrwy drafod yn synhwyrol. Ond weithiau, bydd gwrthdaro yn digwydd. Mae’r canlynol yn dair ffynhonnell gyffredin o wrthdaro, a nodir enghraifft o’r modd y gellir mynd i’r afael â phob un:
- pan nad yw pobl yn dilyn yr hyn sy’n ‘arfer da’ neu os nad ydynt yn ymwybodol ohono, problem gyffredin â cherdded cwn cherdded cwn
- lle bo tirfeddiannwr neu reolwr yn atal mynediad i nodwedd bwysig (er mwyn, dringo creigiau er enghraifft);
- gweithgareddau sy’n ymddangos yn anaddas i lawer, fel rhywfaint o feicio gwlad .
Dilynwch y dolennau i gael rhagor o wybodaeth.
Cliciwch yma i fynd i dudalen O Anghytuno i Gytuno
Click here for the English translation

