Gwrthdaro ar ddwr
Yn ôl ymchwil a wnaed ar gyfer DETR yn 2001 (Water-based Sport and Recreation - the facts) mae nifer y rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau seiliedig ar ddwr yn gymharol sefydlog ar y cyfan, er bod rhai newidiadau o ran poblogrwydd rhai chwaraeon a lleoliadau dwr. Mae hyn yn arwain at ‘glystyrau’ o weithgaredd. Mewn rhai achosion, fel Canolfan Tryweryn, y Ganolfan Dwr Gwyn Cenedlaethol yng Nghymru, nid oes unrhyw wrthdaro â gweithgareddau eraill neu fuddiannau cadwraeth natur. Fodd bynnag, mae rhai enghreifftiau lle mae dynodiadau amgylcheddol wedi atal pobl rhag defnyddio rhai dyfroedd mewndirol i ddiben chwaraeon, ac oherwydd hynny crynhowyd gweithgareddau ar gyrsiau dwr neu gyrff o ddwr sy’n weddill.
Er hynny, mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau seiliedig ar ddwr eisiau mwy o leoedd i ymarfer eu dewis weithgareddau. Oherwydd mai pysgota yw’r gweithgaredd mwyaf cyffredin efallai, gall ymestyn gweithgareddau dwr eraill i feysydd ‘newydd’ olygu gwrthwynebiad gan bysgotwyr, sydd (yn ôl yr ymchwil) yn credu bod y dull a ddefnyddir fel arfer i gael caniatâd i bysgota (h.y. system drwyddedu a phrydlesu hawliau pysgota) yn peri mai nhw yn unig sy’n cael defnyddio’r ardal ddyfrol.
Mae rhai mathau o weithgareddau dwr angen ardaloedd dyfrol â nodweddion sy’n addas i’w gweithgaredd:
- mae sgiwyr dwr angen digon o le, a hawl i ddefnyddio badau peiriant
- mae rhwyfwyr angen rhannau digon hir a syth o lyn neu afon
- mae defnyddwyr cychod personol angen dwr lle nad oes defnyddwyr eraill, am resymau diogelwch.
Felly, lle bo gwrthdaro’n digwydd, mae’n aml o ganlyniad i gystadleuaeth am yr un rhan o ddwr ar yr un adeg. Efallai mai’r enghreifftiau mwyaf cyffredin o wrthdaro (er bod hynny am resymau gwahanol iawn) yw canwio a chychod personol.
Cliciwch yma i fynd i dudalen O Anghytuno i Gytuno
Click here for the English translation

