Cydsyniadau
Mae Henebion Rhestredig wedi’u gwarchod gan Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archaeolegol 1979, sy’n datgan ei bod yn drosedd i:
- ddifrodi heneb restredig drwy gynnal gwaith yno heb ganiatâd;
- creu difrod yn ddi-hid neu’n fwriadol;
- defnyddio synhwyrydd metel neu symud rhywbeth a ddarganfuwyd ag un heb drwydded gan yr asiantaeth llywodraeth berthnasol.
Mae’n rhaid hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch unrhyw waith all effeithio ar heneb naill ai uwchben neu o dan y ddaear, ac y mae’r asiantaeth llywodraeth berthnasol yn rhoi cyngor i’r Llywodraeth ynghylch pob cais. Wrth asesu pob cais bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ceisio gwneud yn siwr fod cyn lleied o ddifrod ag sy’n bosibl yn cael ei wneud i safleoedd gwarchodedig. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw fath o weithgaredd, o waith draenio mawr neu waith ffensio i begiau pabell.
Rhoddir caniatâd i rai mathau o waith fynd yn eu blaenau heb ganiatâd; gwaith sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth neu arddio yw hyn fel arfer, lle bo’r gweithgareddau hyn yn digwydd eisoes. Ond mae’n bosibl y gall gweithgareddau hamdden greu difrod, a gellid ystyried bod hynny’n ddi-hid neu’n fwriadol. Rhaid cael caniatâd ysgrifenedig bob amser cyn y gall unrhyw waith (neu weithgaredd perthnasol) ddechrau. Os ydych yn ansicr, holwch!
Mae ffurflenni cais sy’n ymwneud â Henebion Rhestredig yn Lloegr ar gael o’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon – a gallwch eu lawrlwytho o:
Mae Cadw wedi cynhyrchu taflen sy’n cynnwys canllawiau ynghylch caniatâd Henebion Rhestredig, ac mae ar gael ar:
Mae ffurflen gais am gydsyniad ar gael hefyd ar:

Click here for the English translation

