Darganfyddiadau
Gall treftadaeth ddiwylliannol fodoli mewn unrhyw fan ac weithiau bydd darganfyddiadau gwerthfawr yn cael eu gwneud - naill ai’n ddamweiniol neu drwy chwilio (gan bobl â synwyryddion metel yn aml).
Dylai unrhyw un sy’n ystyried chwilio am arteffactau neu sy’n darganfod un fod yn ymwybodol o’r canlynol:
- Mae Deddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979 yn gofyn bod unrhyw un sydd eisiau defnyddio synhwyrydd metel ar safle gwarchodedig neu symud unrhyw beth a ddarganfuwyd drwy ddefnyddio synhwyrydd metel oddi yno (h.y. Heneb Rhestredig neu Ardal Archeolegol) yn cael sêl bendith i wneud hynny gan yr Ysgrifennydd Gwladol;
- Mae Deddf Trysor 1996 yn amlinellu’r gyfraith sy’n ymwneud ag ystyr a pherchnogaeth ‘trysor’ yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon: Cliciwch yma i agor http://www.opsi.gov.uk/ACTS/acts1996/1996024.htm mewn ffenester newydd
- Mae Adran 11 y Ddeddf Trysor yn golygu bod angen paratoi cod ymarfer – gallwch weld hwn ar: Cliciwch yma i agor http://www.culture.gov.uk/NR/rdonlyres/85462661-3E18-470E-A889-20F892B87A26/0/TreasureAct1996CodeofPractice2ndRevision.pdf mewn ffenester newydd
- Datblygwyd Cod Ymarfer statudol ar wahân yng Ngogledd Iwerddon - gweler: Cliciwch yma i agor http://www.britarch.ac.uk/cba/potant11.html mewn ffenester newydd
- Nid yw’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn rhoi hawl i unrhyw un ddefnyddio synhwyrydd metel ar Dir Cadwraeth (Cymru a Lloegr yn unig);
- Yn yr Alban, mae system yn bodoli lle gellir ymdrin â gwrthrychau archeolegol dan y cysyniad cyfreithiol bona vacantia (nwyddau heb berchen) ac er hwylustod mae’n cael ei alw’n drysor cudd (er ei bod yn bwysig gwahaniaethu rhwng hyn a Deddf Trysor 1996 yng Nghymru a Lloegr – gweler uchod – nad yw’n berthnasol yn yr Alban). Gallwch gael mwy o wybodaeth o’r Uned Trysor Cudd - gweler: Cliciwch yma i agor http://www.treasuretrovescotland.co.uk mewn ffenester newydd
Gallai eiddo a ddarganfuwyd yn y môr neu ar lan y môr fod wedi dod o long ac fe’i gelwir yn ‘ddrylliad’ yn dechnegol. Ni all drylliad fod yn drysor gan na fydd wedi cael ei gladdu â’r bwriad o’i adfer. Rhaid hysbysu’r Derbynnydd Drylliadau am bob drylliad (drwy’r Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau).
Os byddwch yn darganfod unrhyw beth o ddiddordeb archeolegol wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden (neu weithgareddau), cysylltwch â’r Cynllun Hynafiaethau Cludadwy (Portable Antiquities Scheme - PAS) ar: Cliciwch yma i agor http://www.finds.org.uk mewn ffenester newydd
Byddant yn falch o glywed gennych a byddant yn gallu dweud mwy wrthych chi am eich darganfyddiad; mae hefyd yn ychwanegu at yr wybodaeth gyffredinol sydd gennym am bethau sy’n perthyn i’r gorffennol.
Bu’r cynllun ar droed ers rhai blynyddoedd bellach ac y mae ei ganlyniadau’n dechrau effeithio ar ymchwil archeolegol, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth am y materion dan sylw â chlybiau synwyryddion metel lleol ac ati. Mae’n debyg y gallant roi ymateb defnyddiol i chi. Er bod pobl yn ystyried mai ymwneud â synhwyro metel y mae yn bennaf, fe’i sefydlwyd i ddelio â gwrthrychau a ddarganfuwyd gan unrhyw un mewn gwirionedd ac felly mae’n berthnasol ar raddfa lawer ehangach o ran gweithgareddau hamdden cyffredinol.
Cliciwch yma i fynd i dudalen Treftadaeth Ddiwylliannol
Click here for the English translation

