Mynd â chwn am dro
Yn ôl y Kennel Club, mae tua 6 miliwn o gwn yn y DU, sydd angen ymarfer rheolaidd yn rhywle. Mae rheolwyr tir, boed yn ffermwyr neu’n rheolwyr gwarchodfeydd natur, yn tybio y gall cwn ar eu tir greu problemau. (Mae aelodau Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) yn ystyried mai hyn yw eu problem fwyaf o ran mynediad i’r cyhoedd.) Mae eu pryderon fel a ganlyn, er nad ydynt yn digwydd yn aml mewn gwirionedd:
- poeni da byw, defaid yn arbennig;
- gall cwn beri i wartheg sydd newydd gael lloi ymosod ar gwn a’u perchnogion;
- nid yw pob ymwelydd yn croesawu cwn;
- gellir lledaenu rhai afiechydon mewn baw cwn – ymhlith da byw, bywyd gwyllt a phobl.
Gall rhai perchnogion cwn fod yn amddiffynnol am eu ci/cwn ac y mae rhai rheolwyr tir yn cynhyrfu o’u herwydd. Nid yn annisgwyl, felly, gall gwrthdaro ddigwydd. Ond bydd y gwrthdaro hwn yn digwydd yn aml oherwydd camddealltwriaeth neu wybodaeth wael am arferion da.
Beth ellir ei wneud?
Am enghreifftiau o arfer da, cliciwch yma i fynd i astudiaethau achos Y Gorau o’r Ddau Fyd

Click here for the English translation

