Mwy am Henebion Dynodedig
Cyn cynllunio gweithgaredd allai beri difrod i’r tir, yn eich barn chi, dylai unrhyw un sy’n cynllunio digwyddiad wedi’i drefnu neu newidiadau i ffordd mae’r safle’n cael ei reoli ddarganfod a yw’n Heneb Rhestredig neu’n Ardal Gadwraeth.
Dylai’r tirfeddiannwr fod wedi cael ei hysbysu am unrhyw ran o’i dir a Gofrestrwyd dan Ddeddf 1979, er y gall yr hysbysiad hwn fod wedi dyddio’n arw erbyn hyn ac nad yw’n cynnwys fawr ddim am y rheswm dros gofrestru a pha weithgaredd allai beri niwed iddo. Fodd bynnag, bydd yr Arolygydd Henebion neu’r Warden Heneb Maes priodol (English Heritage neu’r hyn sy’n cyfateb ledled y DU) yn falch o’ch cynghori ynghylch statws yr heneb a threfniadau rheoli priodol. Os ydych chi’n ansicr, cysylltwch â’r corff priodol.
Gallwch wneud chwiliad cyffredinol ar wefan y Multi-Agency Geographic Information for the Countryside (MAGIC): Cliciwch yma i agor http://www.magic.gov.uk mewn ffenester newydd
Dim ond â Lloegr y mae’n ymdrin ond mae’n gallu nodi lleoliad Henebion Rhestredig er na cheir gwybodaeth amdanynt.
Gallwch gael gwybodaeth am leoliadau Henebion Rhestredig yng Nghymru drwy Cadw – Cliciwch yma i agor www.cadw.wales.gov.uk mewn ffenester newydd
Porth defnyddiol ar gyfer cael gwybodaeth am safleoedd dynodedig yn yr Alban yw:
Cliciwch yma i agor www.pastmap.org.uk mewn ffenester newydd.
Gallwch ddod i hyd i Henebion Rhestredig yn yr Alban drwy ddefnyddio gwefan Historic Scotland:
Gallwch ddod o hyd i leoliad Henebion Rhestredig yng Ngogledd Iwerddon yn:
Cliciwch yma i fynd i dudalen Treftadaeth Ddiwylliannol
Click here for the English translation

