click here to go to the homepage
Jump to Content

Beth yw tirweddau gwarchodedig

Dynodiadau/diffiniadau tirwedd

Mae rhai o’n tirweddau mwyaf trawiadol yn cael eu gwarchod drwy ddynodiad statudol er mwyn cadw a gwella eu nodweddion arbennig ar gyfer y genhedlaeth bresennol a’r rhai sydd i ddod. Rhestrir y dynodiadau sy’n berthnasol i’r Deyrnas Unedig isod.

Tra defnyddir enwau cyffredin ar gyfer rhai dynodiadau, bydd y ddeddfwriaeth yn aml wedi’i theilwrio i’r amgylchiadau penodol ym mhob gwlad. Mae’r tudalennau ar bob dynodiad yn nodi lle bo hyn yn wir a’r trefniadau sy’n berthnasol.

Mae nifer o ddynodiadau eraill wedi’u seilio ar feini prawf ar wahân i dirwedd, fel “Geobarciau” a “Pharciau Rhanbarthol” neu feini prawf daearegol all fod o ddiddordeb i weithgareddau cadwraeth awyr agored. Yn yr Alban, gall cyfyngiadau arbennig fod yn gymwys mewn “Parthau Gwarchodaeth a Ffefrir”.