Pam bod hyn yn bwysig?
Mae nifer o resymau:
Mae olion archeolegol yn unigryw. Maen nhw’n dystiolaeth – o ran cyfnodau cynhanesyddol, dyma’r unig dystiolaeth – o ddatblygiad ein gwareiddiad yn y gorffennol.
- Cynnyrch gweithgaredd dyn dros filoedd o flynyddoedd yw tirwedd archeolegol heddiw. Mae’n amrywio o aneddiadau ac olion o bob cyfnod, o wersylloedd yr helwyr-gasglwyr cynnar 400,000 o flynyddoedd yn ôl hyd at olion gweithgareddau dechrau’r 20fed ganrif. Mae’n cynnwys mannau addoli, safleoedd amddiffyn, claddfeydd, ffermydd a chaeau, a safleoedd cynhyrchu.
- Mae’r olion hyn yn amrywio’n fawr iawn o ran eu cyflwr a’r graddau y maen nhw’n ddeniadol i’r cyhoedd. Mae olion “unionsyth” yn ddigon cyfarwydd - y cylchoedd cerrig mawr, adfeilion cestyll ac abatai'r Oesoedd Canol neu systemau amddiffyn arfordirol a gafodd eu gadael. Ond mae olion archeolegol llai amlwg, fel aneddiadau hynafol a systemau caeau, i’w cael hefyd mewn rhannau helaeth o’r wlad. Mae rhai safleoedd cynhanesyddol mewn ardaloedd gwlypdir yn cynnwys gweddillion coed a defnyddiau organig pwysig. Mae nifer o adeiladau mewn trefi hyn yn gorwedd ar ben adeiladau Rhufeinig, Eingl-Sacsonaidd neu ganoloesol.
- Dylid ystyried olion archeolegol fel adnodd terfynedig na ellir ei adnewyddu; mewn sawl achos maen nhw’n eithriadol o fregus ac mewn perygl o’u niweidio a’u distrywio. Oherwydd hynny mae eu rheoli’n briodol yn hanfodol er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn goroesi mewn cyflwr da. Yn benodol, rhaid cymryd gofal i sicrhau nad yw olion archeolegol yn cael eu difrodi’n ddiangen neu’n ddifeddwl. Gallant gynnwys gwybodaeth amhrisiadwy am ein gorffennol yn ogystal â’r posibilrwydd o gynyddu ein gwybodaeth yn y dyfodol. Maen nhw’n rhan o’n synnwyr o hunaniaeth genedlaethol ac y maen nhw’n werthfawr yn eu hawl eu hunain yn ogystal â’u swyddogaeth yn y meysydd addysg, hamdden a thwristiaeth. Mae Cyfarwyddyd Nodyn Polisi Cynllunio 16 (PPG16) yn amlinellu polisi’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch olion archeolegol ar dir, a sut y dylid eu diogelu neu eu cofnodi mewn lleoliad trefol ac yng nghefn gwlad.
Mae’r rhan hon o’r wefan yn ymdrin â’r gwahanol ddynodiadau sydd naill ai angen, neu sy’n atal, rhai gweithgareddau. Fodd bynnag, mae’n bwysig sylweddoli y gellir dod o hyd i olion archeolegol a’r ‘amgylchedd hanesyddol’ mewn unrhyw fan ac ym mhobman. Mae pobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden yng nghefn gwlad mewn sefyllfa wych i gyfrannu i’r broses o ofalu am ein treftadaeth genedlaethol. Os am gyngor am bob agwedd ar yr amgylchedd hanesyddol yn lleol (gan gynnwys unrhyw un o’r dynodiadau a restrir yn y ddogfen hon) cysylltwch â Swyddog Archeoleg y Sir Lleol.
Mae’n bwysig cofio hefyd fod llawer o henebion yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan bobl gyffredin neu eu bod yn ymweld â nhw’n rheolaidd a’r rheiny wedi dod yn rhan o’r broses o’u diogelu yn anffurfiol drwy fonitro a ‘chadw llygad ar agor’ am weithgareddau niweidiol. Mae llawer o’r ymwelwyr hyn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden awyr agored yn barod. Mae ein henebion yn aml yn llai anghysbell nag y maen nhw’n ymddangos!

Click here for the English translation

