click here to go to the homepage
Jump to Content

Pecyn cymorth ar gyfer Dod i Gytundeb yn y maes Hamdden Cefn Gwlad

Mae'r Gorau o’r Ddau Fyd yn hybu’r broses o ddod i gytundeb wrth reoli hamdden yng nghefn gwlad drwy gynnig dull o ddatrys gwrthdaro a seiliwyd ar gytundebau gwirfoddol a thrafodaethau llwyddiannus.

Bydd yn arbennig o berthnasol wrth ystyried a ddylid defnyddio dull cyfreithiol i gyfyngu ar ddefnydd i ddiben hamdden, drwy Orchmynion Rheoleiddio Traffig neu gyfyngiadau ar dir lle mae mynediad agored, er enghraifft, a lle na roddir caniatâd ar gyfer gweithgareddau hamdden a bod y rhesymau dros wneud hynny’n cael eu herio.

Mae’r dull yn cydnabod bod y rhan fwyaf o weithgareddau hamdden yn bodoli ar y cyd â gweithgareddau cyfreithlon eraill yng nghefn gwlad (o ganlyniad i reolaeth a chydsyniad cadarnhaol yn aml, ond hefyd yn aml ar sail de facto – fel gyda llawer o weithgareddau canwio ar afonydd) ond y gellir dod ar draws problemau o bryd i’w gilydd a all fod yn rhai anodd eu datrys weithiau, yn arbennig pan fo safbwyntiau’n troi’n rhai diwyro.

Efallai mai gyda grwpiau defnyddwyr eraill yn hytrach na rheolwyr safleoedd cadwraeth y bydd y gwrthdaro yn y lle cyntaf. Gall cyfathrebu ac ymgynghori’n fuan ymhlith buddgyfranogwyr helpu i atal pobl rhag mabwysiadau safbwyntiau diwyro.