click here to go to the homepage
Jump to Content

Gwybodaeth Sylfaenol am Y Gorau o’r Ddau Fyd

Caiff llawer o weithgareddau awyr agored eu cynnal mewn ardaloedd sy’n sensitif o safbwynt amgylcheddol, lle mae’n rhaid rheoli mynediad cyhoeddus er mwyn gwarchod byd natur. Eto i gyd, mae’r rheiny sy’n mwynhau gweithgareddau awyr agored a chadwraethwyr yn rhannu nifer o’r un amcanion:

Beth yw diben y wefan hon?

Mae’r wefan hon yn helpu i gynyddu’r cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden awyr agored, ac ar yr un pryd mae’n ceisio sicrhau bod yr amgylcheddau sensitif lle cynhelir y gweithgareddau hyn yn cael eu mwynhau, eu gwerthfawrogi a’u hamddiffyn gymaint ag y bo modd. Ein gobaith yw dangos bod y syniad o’r Gorau o’r Ddau Fyd yn gweithio!

Cliciwch yma i agor Llwyddiannau Y Gorau o’r Ddau Fyd mewn ffenestr newydd.

Ar gyfer pwy y mae’r wefan hon?

Unrhyw un:

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn bennaf, ond gellir cymhwyso llawer o’r cysyniadau yn rhywle. Mae’r ymarfer da yn berthnasol i bob math o sefyllfa p’un a oes angen caniatâd y tirfeddiannwr neu beidio (caiff yr ystod o sefyllfaoedd mynediad ei disgrifio yn “Mathau o Fynediad”).

Cliciwch yma i fynd i Mathau o fynediad


Yn sail i’r Gorau o’r Ddau Fyd ceir Egwyddorion Arweiniol, a’r gobaith yw y byddant yn fan cychwyn i bawb dan sylw. Caiff yr egwyddorion hyn eu cymeradwyo gan y sefydliadau a restrir.

Cliciwch yma i fynd i dudalen