Cwestiynau Cyffredin
Treftadaeth Tirwedd
C. Beth yw tirweddau gwarchodedig?
A. Fel arfer cymerir mai Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ac Ardaloedd Golygfaol Cenedlaethol yw’r rhain.
C. Pa un yw’r categori uchaf?
A.Yn nhermau tirwedd, cyfrifir eu bod i gyd o bwysigrwydd cenedlaethol neu ryngwladol.
C. Eiddo i bwy yw Barciau Cenedlaethol?
A. Mae tir mewn parciau cenedlaethol, a thirweddau gwarchodedig eraill yn y DU, yn eiddo i unigolion, cwmnïau, elusennau a chyrff sector cyhoeddus – yn yr un ffordd yn union â thir arall.
C. Pwy sy’n rheoli tirwedd warchodedig?
A. Y tirfeddiannwr neu’r deiliad sy’n rheoli’r tir, yn union fel ym mhobman arall. Ond mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i baratoi cynlluniau rheoli ar gyfer Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn eu hardaloedd.
C. Pwy sy’n gyfrifol am reoli hamdden?
A. Fel ym mhobman arall, y tirfeddiannwr neu’r deiliad sy’n delio â rheolaeth fanwl. Ond gall yr awdurdod lleol hefyd roi arweiniad ar reoli hamdden, yn enwedig digwyddiadau mawr. Mae tirweddau gwarchodedig hefyd yn cynnwys sawl ardal o dir a ddynodwyd am resymau cadwraeth natur a/neu dreftadaeth ddiwylliannol, ac efallai y bydd angen caniatâd gan y corff llywodraeth perthnasol mewn rhai achosion.
Treftadaeth Ddiwylliannol
C. Beth yw treftadaeth ddiwylliannol?
A. Etifeddiaeth a adawyd gan bobl sydd wedi mynd o’n blaenau yw treftadaeth ddiwylliannol – ein rhagflaenwyr diweddar ac ers amser maith. Mae’n cynnwys safleoedd archeolegol o’r gweithgarwch dynol cynharaf hyd at amseroedd diweddar; pentrefannau, pentrefi a threfi; tirweddau hanesyddol fel meysydd y gad, tirweddau a gynlluniwyd, fel parciau; adeiladau a ffermydd; lonydd glas; llwybrau troed a llwybrau marchogaeth; chwareli a choetiroedd; a’r patrymau caeau cyffredin sy’n dystiolaeth o ddefnydd dyn o’r dirwedd o’r cyfnodau cynhanesyddol a Sacsonaidd, hyd at yr adeg yr aeth y Senedd ati i Gau Tiroedd yn y ddeunawfed ar bedwaredd ganrif ar bymtheg.
C. Sut mae hyn yn effeithio ar weithgareddau hamdden?
A. Nid yw’n effeithio arnynt, yn y rhan fwyaf o achosion. Ond os yw nodwedd neu safle wedi’i ddynodi’n Heneb Rhestredig, yna gallai ei niweidio yn sgil gweithgareddau hamdden arwain at erlyniad a phobl yn cael eu dirwyo.
C. Sut ydw i’n darganfod lle mae dynodiadau o’r fath yn gymwys?
A. Gallwch fynd i wefannau i ddangos lle mae Henebion Rhestredig - Cliciwch yma i fynd i’r tudalennau Dolennau Gwe
C. Pam fod safle wedi’i restru pan nad oes unrhyw beth yno ond ychydig o grybiau, bryniau a phantiau?
A. Mae llawer o’n treftadaeth ddiwylliannol hynaf o dan y ddaear yn aros i gael ei dadorchuddio. Ond er mwyn dysgu’r mwyaf ohoni, rhaid i arbenigwyr weld yr arteffactau yn eu cyd-destun (h.y. yn eu safle gorffwys ynghyd â phopeth arall o’u cwmpas).
C. Beth ddylwn i wneud os ydw i’n darganfod rhywbeth sy’n edrych fel pe bai o ddiddordeb archeolegol?
A. Yn gyntaf, os ewch allan gyda’r bwriad penodol o chwilio am arteffactau, dylech geisio caniatâd y tirfeddiannwr yn gyntaf. Yn ail, os ydych yn darganfod rhywbeth, gallwch ddysgu mwy trwy gysylltu â’r Cynllun Hynafiaethau Cludadwy.
Cliciwch yma i fynd i http://www.finds.org.uk
Treftadaeth Naturiol
C. Beth mae treftadaeth naturiol yn ei olygu?
A. Yr holl fyd naturiol o’n cwmpas - fflora a ffawna, ynghyd â’r ffurfiau tir, creigiau, ffosilau a nodweddion.
C. Pa un yw’r corff llywodraeth perthnasol sy’n delio â threftadaeth naturiol?
A. Mae hyn yn amrywio ar draws y DU a’r cyrff yw Natural England, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Scottish Natural Heritage a’r Environment and Heritage Service ar gyfer Gogledd Iwerddon.
C. Sut mae treftadaeth naturiol yn cael ei hamddiffyn gan y gyfraith?
A. Mae llawer o ddeddfau sy’n amddiffyn treftadaeth naturiol ond y brif un yw’r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, a diwygiadau dilynol iddi (e.e. o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000). Rhoddir y lefel uchaf o amddiffyniad mewn ardaloedd a nodwyd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Mae rhai o’r rhain hefyd wedi’u dynodi’n safleoedd Natura 2000 ac yn cael eu gwarchod i raddau helaethach fyth.
C. Beth yw safleoedd Natura 2000?
A. Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a ddynodwyd o dan y Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd yw’r rhain ac fe’u gelwir yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac yn Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA).
C. Sut allaf fi ddysgu mwy?
A. Gallwch fynd i’r tudalennau ar Y Gorau o’r Ddau Fyd, neu wefannau gwahanol asiantaethau’r llywodraeth Cliciwch yma i fynd i’r tudalennau Treftadaeth Naturiol
Gweithgareddau Awyr Agored
C. Sut ydw i’n gwybod os oes arnaf angen caniatâd y tirfeddiannwr i gynnal y gweithgaredd a gynlluniwyd gennyf?
A. Gall hyn fod yn bwnc cymhleth, gan fod hawliau tramwy cyhoeddus yn amrywio o un lle i’r llall.
Am arweiniad pellach: cliciwch yma i fynd i’r tudalennau Mathau o Fynediad
Cliciwch yma i fynd i Mathau o Ddefnyddwyr
Cliciwch yma i fynd i Gwybodaeth Bellach
C. Pa fathau o weithgareddau allaf fi eu gwneud heb fod angen caniatâd y tirfeddiannwr?
A. Mae’n dibynnu’n hollol pa hawliau sy’n bodoli ar ddarn arbennig o dir. Efallai fod llwybrau cyhoeddus yn ei groesi, neu gall fod yn ardal o dir mynediad CRoW, ac mae’r gweithgareddau y mae gennych hawl i’w gwneud yn amrywio’n unol â hynny.
Cliciwch yma i fynd i Mathau o Fynediad
C. A oes angen caniatâd i gynnal digwyddiad gweithgareddau awyr agored ar SoDdGA ?
A. Mae’n dibynnu. Edrychwch ar yr arweiniad i ganiatâd am fwy o wybodaeth.
Cliciwch yma i fynd i’r Arweiniad i Ganiatâd
C. Pwy sy’n gyfrifol am roi caniatâd?
A. Y perchennog neu’r deiliad yw’r person sy’n gorfod cael caniatâd gan y corff cadwraeth natur perthnasol (oni bai ei fod yn awdurdod lleol). Gellir dod o hyd i fwy o fanylion yn yr arweiniad i ganiatâd.
Cliciwch yma i fynd i’r tudalennau Arweiniad i Ganiatâd
C. A oes yna safleoedd na allwch fyth gynnal gweithgareddau awyr agored arnyn nhw?
A. Oes, ond maen nhw’n brin iawn. Gellir gosod cyfyngiadau ar amryw o safleoedd ac mae’r rhain yn golygu y gellir rheoli gweithgareddau fel arfer yn hytrach na’u gwahardd yn llwyr.
C. Sut ydw i’n darganfod y corff llywodraethu cenedlaethol iawn?
A. Cysylltwch â CCPR
Cliciwch yma i fynd i http://www.ccpr.org.uk mewn ffenestr newydd
Beth am yr Alban?
Nid oes unrhyw dir mynediad yn yr Alban, a phrin yw’r hawliau tramwy. Ond mae’r Ddeddf Diwygio Tir 2003 yn rhoi hawl i bobl gael mynediad cyfrifol i’r rhan fwyaf o gefn gwlad yr Alban.
Cliciwch yma i fynd i http://www.outdooraccess-scotland.com/default.asp mewn ffenestr newydd
O Anghytuno i Gytuno
C. Beth yw’r dull gorau?
A. Rydym wedi darparu llawer o arweiniad i hyn ar Y Gorau o’r Ddau Fyd – gweler Cliciwch yma i fynd i’r tudalennau Cam wrth Gam
C. Mae’n ddigon hawdd dweud byddwch yn rhesymol ond beth os nad yw’r ochr arall yn bod yn rhesymol?
A. Mae hyn yn anodd iawn, yn enwedig os yw pobl yn styfnigo. Mae arweiniad pellach i hyn ar safle Y Gorau o’r Ddau Fyd. Cliciwch yma i fynd i’r dudalen Bwrw’r Wal
C. A yw’r dull yma’n gweithio?
A. Ydy – fel arfer. Gallwch weld enghreifftiau ar Cliciwch yma i fynd i’r tudalennau Astudiaethau Achos GoDdF
Cynllunio Digwyddiad
C. Os ydym yn cynnal digwyddiad ar dir y mae llwybr cyhoeddus yn ei groesi, a allwn ei wyro pan fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal, am resymau iechyd a diogelwch?
A. Dylech gysylltu â’r Swyddog Hawliau Tramwy yn eich awdurdod lleol am arweiniad.
Q. Fel tirfeddiannwr, ydw i’n gyfrifol am anafiadau i bobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau ar fy nhir gyda’m caniatâd?
A. Fel tirfeddiannwr mae gennych ddyletswydd gofal i wneud yn siwr fod y safle mor ddiogel ag y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol h.y. dim peiriannau peryglus o gwmpas, ffensys o amgylch siafftau, dim teirw rhydd ac ati. Dylai fod gan y rhai sy’n cymryd rhan a/neu drefnwyr y digwyddiad eu hyswiriant eu hunain ar gyfer unrhyw ddamweiniau eraill.
C. Os ydym yn cynllunio digwyddiad ar dir mynediad agored, a allwn atal y cyhoedd rhag defnyddio’r safle yn ystod y digwyddiad?
A. Gallwch, mae gan y tirfeddiannwr neu’r tenant 28 diwrnod dewisol y flwyddyn pryd y gall gyfyngu mynediad i’w dir am unrhyw reswm. Ond nid yw cyfyngiadau dewisol yn berthnasol i lwybrau sy’n croesi’r tir. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth yn y Pecyn Arweiniad i Reolwyr Tir. Gallwch archebu copi drwy ffonio’r ganolfan gyswllt mynediad agored ar 0845 100 3298 neu edrych arno ar wefan Open Access.
Cliciwch yma i fynd i http://www.openaccess.gov.uk/ mewn ffenestr newydd
Nodwch, fodd bynnag, nad yw tir Adran 15 yn dir mynediad agored a gall fod trefniadau cau gwahanol yn berthnasol.
A oes angen i mi siarad â’r heddlu?
Ar gyfer rhai digwyddiadau, efallai y dylech gysylltu â’ch heddlu lleol, yn enwedig os byddant yn effeithio ar ffyrdd.
A oes dynodiadau cadwraeth natur yn berthnasol i’r safle?
Mae gwybodaeth ar wefan Y Gorau o’r Ddau Fyd
Cliciwch yma i fynd i’r dudalen Dynodiadau Cadwraeth Natur
A yw’r tir yma’n Dir Comin neu’n Llecyn Glas?
Mae cofrestrau sy’n cofnodi lle mae Tiroedd Comin a Llecynnau Glas wedi’u cofrestru. Yr Awdurdodau Cofrestru Tiroedd Comin sy’n gyfrifol am y rhain (sef y Cyngor Sir fel arfer). Fel arall gallech holi’r tirfeddiannwr neu, os ydych yn aelod, yr Open Spaces Society.
Mae rhai tirfeddianwyr wedi ymrwymo i gynlluniau amaeth-amgylcheddol
a allai effeithio ar eu rheolaeth, yn ogystal â darparu mynediad gwirfoddol.
Dylech gysylltu â:
- Defra ar gyfer safleoedd yn Lloegr
Cliciwch yma i fynd i http://www.defra.gov.uk/erdp/schemes/es/default.htm mewn ffenestr newydd
- Am wybodaeth am deithiau cerdded a marchogaeth penodol
Cliciwch yma i fynd i http://countrywalks.defra.gov.uk mewn ffenestr newydd
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) ar gyfer safleoedd yng Nghymru
- Adran yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gweithrediaeth yr Alban ar gyfer safleoedd yn yr Alban
Cliciwch yma i fynd i http://www.scotland.gov.uk/Topics/Agriculture/Environment mewn ffenestr newydd
- Gall Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol gweithgareddau awyr agored a chyrff sy’n cynrychioli rheolwyr tir hefyd ddarparu gwybodaeth gyffredinol

Click here for the English translation

