1. Y Dull
Mae Natural England/CCGC ac awdurdodau parciau lleol/cenedlaethol eisoes yn defnyddio’r prif egwyddorion sy’n sail i’r dull o ddatrys gwrthdaro ar raddfa eang:
- deall yr hyn sydd wrth wraidd y gwrthdaro ac a yw hyn o ganlyniad i gamddealltwriaeth neu’n broblem go iawn;
- chwilio am ateb gwirfoddol i ddechrau yn hytrach nag un statudol a orfodir arnynt, gyda chymorth defnyddwyr hamdden;
- ceisio cymhwyso a rheoli’r defnydd hamdden yn hytrach na’i ddileu; a
- chytuno ar dargedau eglur, mesuradwy y dylai’r ateb eu cyflawni.
Mae Natural England, CCGC a nifer o sefydliadau eraill wedi cefnogi Prif Egwyddorion “Y Gorau o’r Ddau Fyd”.
Y Manteision
Mae nifer o fanteision posibl i’r unigolion dan sylw o ddefnyddio dull Y Gorau o’r Ddau Fyd. Gall:
- gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o’r materion dan sylw;
- arbed amser ac arian yn y tymor hir;
- creu mwy o ‘berchnogaeth’ o’r broses a’r atebion;
- helpu i ddatblygu perthynas waith ag eraill;
- rhoi mwy o hyblygrwydd na gweithdrefnau mwy ffurfiol, ac mae’n cynnig amrywiaeth ehangach o atebion posibl;
- gwella’r berthynas rhwng buddgyfranogwyr, gan ei gwneud yn llai tebygol y byddant yn anghytuno yn y dyfodol; a
- rhoi lle i’r dulliau statudol ‘gobaith olaf’ gael eu defnyddio pe bai cydsyniad gwirfoddol yn methu.

Click here for the English translation

