Cynllunio Digwyddiad
Cyflwyniad
Mae cefn gwlad yn darparu cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer adloniant achlysurol a gweithgareddau trefnedig. Fodd bynnag, mae poblogrwydd cynyddol nifer o weithgareddau sefydledig a newydd yn rhoi pwysau ar y rheiny sy’n byw ac yn gweithio yn y gymuned wledig.
Mae pryderon am effeithiau adloniant awyr agored yn dwysáu pan fo digwyddiadau’n cael eu cynnal. Bydd crynhoad o bobl mewn un lleoliad, ni waeth beth fo’r gweithgaredd, yn rhoi’r lleoliad hwnnw dan bwysau dwys. Ond gellir mynd i’r afael â nifer o’r pryderon hyn yn ystod y camau cynllunio.
Mae gan gyrff llywodraethol nifer o’r gweithgareddau sy’n cael eu trefnu ers peth amser, megis cerdded pellter hir, marchogaeth dygn, rhedeg mynyddoedd a chyfeiriadu, ganllawiau ar gyfer trefnwyr sy’n sicrhau bod y digwyddiadau’n cael eu cynnal mewn cytgord â thirfeddianwyr, trigolion lleol a bywyd gwyllt. Ond nid yw’r profiad hwn bob amser ar gael i drefnwyr newydd digwyddiadau noddedig, cystadleuwyr her ac eraill sy’n ymwneud â digwyddiadau tebyg.
Mae pwysau yn sgil digwyddiadau hamdden yn arbennig o ddifrifol mewn Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, a gall trefnwyr ganfod bod cryn fanteision i leoli eu digwyddiadau mewn ardaloedd heb gymaint o bwysau arnynt.
Cliciwch ar y cysylltau isod i ddysgu mwy am yr arweiniad hwn ac i gael gafael arno.
- Cwmpas yr Arweiniad hwn
- Cynllunio Digwyddiadau – Arweiniad i Arferion Da
- Deddfwriaeth Allweddol
- Adnoddau
Gallwch weld rhai enghreifftiau o ganllawiau ar gyfer trefnu digwyddiadau drwy glicio:
Cliciwch yma i fynd i tudalen Enghreifftiau o Arferion Da wrth Drefnu Digwyddiadau.
I weld enghreifftiau o arferion da, cliciwch yma i fynd at: Astudiaethau Achos y GoDF
Cliciwch yma i fynd i dudalen
Click here for the English translation

